Logo

Ffurflen Gofrestru Siarad Iechyd / Talking Health Siarad Iechyd/Talking Health yw cynllun cynnwys ac ymgysylltu newydd sy’n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ynghylch sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu.

Mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar safbwyntiau, barn a syniadau'r bobl sy’n byw yn ein cymunedau, ac yn gweithredu arnynt, a hynny er mwyn gwella ar yr hyn rydym ni’n ei gyflawni.


Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dim ond er mwyn cyfathrebu’n uniongyrchol â chi, ac yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei defnyddio i’n helpu i sicrhau y bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau, megis arolygon neu ddigwyddiadau, mor berthnasol â phosibl i chi. Bydd unrhyw adborth y gallech chi ei roi yn cael ei gadw’n ddienw a bydd eich manylion personol yn cael eu cadw’n ddiogel gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Atebwch yr holl gwestiynau sydd wedi’u nodi â seren (*). Mae’r cwestiynau eraill yn ddewisol, ond gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi i ni.

Page 1 of 6

Survey Closes 31 Jan 2031

EICH MANYLION

Mandatory

Mandatory

Mandatory